Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru Achlysurol Organisation Cardiff Metropolitan University Salary £27979 Location Cardiff, Wales Contract type Fixed Term (Part time) Closing date 25 May 2025 Interview date 27 June 2025 Job Description Mae'r Tîm Cryfder a Chyflyru yn rhan o'r Tîm Gwasanaethau Perfformiad ac yn rhan o'r Tîm Systemau Chwaraeon, gan gyflawni ein rhaglenni perfformiad amrywiol gyda'r nod o ddarparu'r profiad gorau oll i fyfyrwyr ac athletwyr. Yn ogystal â'r wybodaeth ymarferol a phroffesiynol sydd ei hangen i roi cymorth S&C effeithiol a chadarn ar waith, bydd angen i'r ymgeisydd allu ymgysylltu â'n hathletwyr i roi pob cyfle iddynt gyrraedd eu potensial unigol. Er mwyn rhagori yn y rôl hon bydd angen i'r ymgeisydd fabwysiadu dull hyblyg o ymgysylltu â hyfforddwyr a staff cymorth eraill mewn amgylchedd aml-chwaraeon.Beth fyddwch chi’n ei gyfrannuBydd yr hyfforddwyr Cryfder a Chyflyru yn gyfrifol am weinyddu a chyflwyno darpariaeth S&C gadarn i naill ai Academi Pêl-droed Bechgyn Categori A Met Caerdydd neu raglenni Tîm Cymru i Gemau’r Gymanwlad a nodwyd. Byddwch yn darparu ystod o wasanaethau gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i; darpariaeth yn y gampfa ac yn y maes, cymorth adsefydlu, darpariaeth cyn-sefydlu / lliniaru anafiadau. Bydd gennych angerdd a phrofiad o weithio gydag athletwyr ifanc a/neu athletwyr perfformiad uchel. Gan weithio mewn amgylchedd aml-chwaraeon, byddwch yn cael y cyfle i weithio gydag amrywiaeth o athletwyr a thimau a ffurfio rhan o dîm amlddisgyblaethol gyda'n Tîm Cryfder a Chyflyru, hyfforddwyr a gwasanaethau cymorth eraill.Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o'n diwylliant, ac rydym yn cefnogi ein staff. Ein hysbryd cymunedol yw'r llinyn aur sy'n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiad. Rydym yn annog cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu perfformio ar eu gorau. Drwy ymuno â'n Prifysgol, byddwch mewn amgylchedd unigryw lle mae cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau ar gael yn rhwydd, gan eich cefnogi gyda datblygiad eich gyrfa. Rydym yn cynnig buddion rhagorol fel:Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau haelPolisïau rhagorol sy’n ystyriol o deuluoedd – edrychwch ar ein tudalen Hyb Polisi.Cyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau gyda mynediad i gyfleusterau llyfrgell a gwasanaethau digidol.I gael rhagor o wybodaeth am y rôl cysylltwch â Michael Peacock ar mpea@cardiffmet.ac.uk.Rhaid cyflwyno pob cais ar-lein.Defnyddir y fanyleb person fel arf ar gyfer llunio rhestr fer; felly gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r wybodaeth hon wrth ysgrifennu eich cais. Gallwch ddod o hyd i awgrymiadau defnyddiol ar sut i wneud cais trwy ymweld â'n tudalen Canllawiau Ymgeisio. How to apply https://jobs.cardiffmet.ac.uk/2425023 Share X LinkedIn Email