Ffisiotherapydd Perfformiad (Rygbi) Organisation Cardiff Metropolitan University Salary £27,979 to £32,982 Location Cardiff, Wales Contract type Permanent (Full time) Closing date 7 July 2025 Job Description Mae'r Tîm Ffisiotherapi yn rhan annatod o'r Tîm Gwasanaethau Perfformiad, gan weithio ar draws rhaglenni perfformiad y brifysgol i ddarparu'r cymorth o'r ansawdd uchaf gyda'r nod o sicrhau'r profiad gorau posibl i fyfyrwyr-chwaraewyr. Yn ogystal â'r wybodaeth ymarferol a phroffesiynol sydd ei hangen i weithredu gwasanaeth ffisiotherapi effeithlon ac effeithiol, bydd angen i'r ymgeisydd allu ymgysylltu â'n myfyrwyr-chwaraewyr i roi pob cyfle iddynt gyflawni eu potensial unigol. I ragori yn y rôl hon, bydd angen i'r ymgeisydd fabwysiadu dull hyblyg i ymgysylltu â hyfforddwyr a staff cymorth eraill mewn amgylchedd aml-chwaraeon.Beth fyddwch chi’n ei gyfrannu Bydd y Ffisiotherapydd Perfformiad (Rygbi) yn arwain y gwaith o gynllunio, gweinyddu a chyflwyno darpariaeth ffisio gadarn ar gyfer rhaglenni perfformiad dethol, gan gynnwys ystod o wasanaethau ond heb fod yn gyfyngedig i; brysbennu, gwasanaeth diwrnod gêm, darparu clinig, adsefydlu, rheoli anafiadau, strapio a thapio ac addysg sesiynau. Gan weithio mewn y’r amgylchedd rygbi, cewch gyfle i weithio gydag amrywiaeth o athletwyr a thimau a ffurfio rhan o dîm amlddisgyblaethol gyda'n Tîm Cryfder a Chyflyru, hyfforddwyr a gwasanaethau cefnogi eraill.Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o'n diwylliant, ac yn cefnogi ein staff. Ein hysbryd cymunedol yw'r edau euraidd sy'n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiadau. Rydym yn annog cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu perfformio ar eu gorau. Drwy ymuno â'n Prifysgol, byddwch yn gweithio mewn amgylchedd unigryw lle mae cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau ar gael yn rhwydd, gan eich cefnogi gyda'ch datblygiad gyrfa. Rydym yn cynnig manteision ardderchog fel:Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod, yn codi i 30 diwrnod ar ôl blwyddyn o wasanaeth, ynghyd â 1 diwrnod gŵyl banc / consesiwn] Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau haelPolisïau ardderchog sy'n addas i deuluoedd — edrychwch ar ein tudalen Hyb Polisi.Cyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau gyda mynediad at gyfleusterau llyfrgell a gwasanaethau digidol.Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd arobryn gydag aelodaeth â chymhorthdal a chynllun aberthu cyflog beicio i'r gwaith.Mynediad am ddim i deuluoedd i'n darparwr cymorth lles arbenigol annibynnol, Health Assured.Cysylltu â ni Am ragor o wybodaeth am y rôl cysylltwch â Richard Williams (Pennaeth Ffisiotherapi) ar RAWilliams2@cardiffmet.ac.uk.Rhaid cyflwyno pob cais ar-lein. Bydd manyleb y person yn cael ei defnyddio i lunio'r rhestr fer; felly cofiwch ddefnyddio'r wybodaeth hon wrth ysgrifennu’ch cais. Mae cyngor ac awgrymiadau defnyddiol am sut i wneud cais ar ein tudalen Canllawiau Ymgeisio. How to apply https://jobs.cardiffmet.ac.uk/3923 Share X LinkedIn Email